29 “Galwch am fwasaethwyr i ymosod ar Babilon!Galwch ar bawb sy'n trin y bwa saeth i ddod yn ei herbyn hi!Codwch wersyll o gwmpas y ddinas!Does neb i gael dianc!Talwch yn ôl iddi am beth wnaeth hi.Gwnewch iddi hi beth wnaeth hi i eraill.Mae hi wedi ymddwyn yn haerllugyn erbyn yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.
30 Felly, bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd,a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd ar y diwrnod hwnnw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
31 “Gwranda! Dw i yn dy erbyn di, ddinas falch,meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.Mae'r diwrnod pan dw i'n mynd i dy gosbi di wedi dod.
32 Bydd y ddinas falch yn baglu ac yn syrthio,a fydd neb yna i'w chodi ar ei thraed.Dw i'n mynd i roi dy drefi di ar dân,a bydd popeth o dy gwmpas yn cael ei losgi'n ulw.”
33 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Mae pobl Israel a phobl Jwda yn cael eu cam-drin. Mae'r rhai wnaeth eu caethiwo yn dal gafael ynddyn nhw, ac yn gwrthod eu gollwng nhw'n rhydd.
34 Ond mae'r un fydd yn eu rhyddhau nhw yn gryf—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd e'n gweithredu ar eu rhan nhw,ac yn dod â heddwch i'w gwlad nhw.Ond bydd yn aflonyddu ar y boblsy'n byw yn Babilon.
35 Bydd cleddyf yn taro'r Babiloniaid,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.“Bydd yn taro pawb sydd yn byw yn Babilon.Bydd yn taro ei swyddogion a'i gwŷr doeth!