3 Bydd gwlad yn ymosod arni o gyfeiriad y gogledd.Bydd yn ei dinistrio hi'n llwyr, a fydd neb yn byw yno.Bydd pobl ac anifeiliaid wedi dianc i ffwrdd.’
4 “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD,“bydd pobl Israel a phobl Jwda yn dod adre gyda'i gilydd.”Byddan nhw'n crïo wrth gerdded,ac eisiau perthynas iawn gyda'u Duw eto.
5 Byddan nhw'n holi am y ffordd i Seion,ac yna'n troi i'r cyfeiriad hwnnw.Byddan nhw'n ymrwymo i fod yn ffyddlon i'r ARGLWYDD,a fydd yr ymrwymiad hwnnw byth yn cael ei anghofio.
6 “Mae fy mhobl wedi bod fel defaid oedd ar goll.Roedd eu bugeiliaid wedi gadael iddyn nhw grwydro i ffwrdd.Maen nhw wedi bod yn crwydro ar y mynyddoedd –crwydro o gopa un bryn i'r llall;wedi anghofio'r ffordd yn ôl i'r gorlan.
7 Roedd pawb ddaeth ar eu traws yn eu llarpio.Ond wedyn roedd y gelynion hynny'n dweud,‘Does dim bai arnon ni.Maen nhw wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD.Fe oedd eu porfa go iawn nhw –unig obaith eu hynafiaid.’”
8 “Ffowch o Babilon! Ewch allan o wlad y Babiloniaid! Am y cyntaf i adael! – fel y bychod geifr sy'n arwain y praidd.
9 Dw i'n mynd i wneud i nifer o wledydd cryfion o'r gogledd ymosod ar Babilon. Byddan nhw'n trefnu eu hunain yn rhesi i ymosod arni, yn dod o'r gogledd ac yn ei choncro hi. Bydd eu saethau'n taro'r targed bob tro, fel saethau'r milwyr gorau.