36 Bydd cleddyf yn taro ei phroffwydi ffals,a bydd hi'n amlwg mai ffyliaid oedden nhw.Bydd cleddyf yn taro ei milwyr,a byddan nhw'n cael eu difa!
37 Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel.Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi,a byddan nhw'n wan fel merched!Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau,a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.
38 Bydd sychder yn taro'r wlad,a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiaua delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!
39 Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrysfydd yn byw yn Babilon.Fydd pobl yn byw yno byth eto –neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
40 Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorraa'r pentrefi o'u cwmpas.Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
41 “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r bydyn paratoi i ryfel.
42 Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyfmaen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”