37 Bydd cleddyf yn taro eu ceffylau a'u cerbydau rhyfel.Bydd yn taro'r milwyr tramor sydd gyda hi,a byddan nhw'n wan fel merched!Bydd cleddyf yn taro ei thrysorau,a bydd y cwbl yn cael ei gymryd i ffwrdd yn ysbail.
38 Bydd sychder yn taro'r wlad,a bydd y cyflenwad dŵr yn dod i ben!Achos mae'r wlad yn llawn o eilun-dduwiaua delwau dychrynllyd sy'n eu gyrru nhw'n wallgof!
39 Felly ysbrydion yr anialwch, bwganod ac estrysfydd yn byw yn Babilon.Fydd pobl yn byw yno byth eto –neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau.
40 Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorraa'r pentrefi o'u cwmpas.Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
41 “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref a brenhinoedd ym mhen draw'r bydyn paratoi i ryfel.
42 Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyfmaen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Babilon.”
43 Mae brenin Babilon wedi clywed amdanyn nhw.Does dim byd allith e ei wneud.Mae dychryn wedi gafael ynddo,fel gwraig mewn poen wrth gael babi.