1 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i ddod â corwynt dinistriol yn erbyn Babilon,ac yn erbyn y bobl sy'n byw yn Babilonia.
2 Bydda i'n anfon pobl estron i'w nithio;bydd fel gwynt yn chwythu'r us i ffwrdd.Bydd y wlad yn cael ei gadael yn wag.Byddan nhw'n ymosod o bob cyfeiriadar y diwrnod hwnnw pan fydd pethau'n ddrwg arni.
3 Peidiwch rhoi cyfle i'r bwasaethwr roi llinyn ar ei fwa;nac amser iddo roi ei arfwisg amdano.Lladdwch y bechgyn ifanc i gyd!Dinistriwch y fyddin yn llwyr!”
4 Bydd pobl Babilon yn syrthio'n farw,wedi eu hanafu ar strydoedd y ddinas.
5 Dydy Duw, yr ARGLWYDD holl-bwerus,ddim wedi troi cefn ar Israel a Jwda.Mae gwlad Babilonia yn euogo bechu yn erbyn Un sanctaidd Israel!
6 Ffowch o ganol Babilon!Rhedwch am eich bywydau bawb!Does dim rhaid i chi ddiodde am ei bod hi'n cael ei chosbi.Mae'r amser wedi dod i'r ARGLWYDD dalu'n ôl iddi.Bydd yn rhoi iddi beth mae'n ei haeddu!