21 Dw i wedi taro ceffylau a'u marchogion gyda ti;cerbydau rhyfel a'r milwyr sy'n eu gyrru.
22 Dw i wedi taro dynion a merched;dynion hŷn, bechgyn a merched ifanc.
23 Dw i wedi taro bugeiliaid a'u preiddiau;ffermwyr a'r ychen maen nhw'n aredig gyda nhw.Dw i wedi taro llywodraethwyr a swyddogion gyda ti.
24 “Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
25 “Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD.“Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd.Dw i'n mynd i dy daro di,a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni.Byddi fel llosgfynydd mud.
26 Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot tifel maen congl na charreg sylfaen.Byddi'n adfeilion am byth.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
27 “Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrddi alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon –Ararat, Minni ac Ashcenas.Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad.Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid.