24 “Dw i'n mynd i dalu'n ôl i Babilon a phawb sy'n byw yn Babilonia am yr holl bethau drwg wnaethon nhw yn Seion o flaen eich llygaid chi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
25 “Dw i yn dy erbyn di, Babilon!” meddai'r ARGLWYDD.“Ti ydy'r llosgfynydd sy'n dinistrio'r byd i gyd.Dw i'n mynd i dy daro di,a dy rolio di i lawr oddi ar y clogwyni.Byddi fel llosgfynydd mud.
26 Fydd neb yn defnyddio carreg ohonot tifel maen congl na charreg sylfaen.Byddi'n adfeilion am byth.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
27 “Rhowch arwydd clir a chwythu'r corn hwrddi alw'r gwledydd i ryfel yn erbyn Babilon –Ararat, Minni ac Ashcenas.Penodwch gadfridog i arwain yr ymosodiad.Dewch â cheffylau rhyfel fel haid o locustiaid.
28 Paratowch wledydd i ymladd yn ei herbyn hi –brenhinoedd Media, ei llywodraethwyr a'i swyddogion,a'r gwledydd sy'n cael eu rheoli ganddi.”
29 Mae'r ddaear yn crynu ac yn gwingo mewn poen,am fod bwriadau'r ARGLWYDD yn mynd i gael eu cyflawni.Mae'n mynd i ddinistrio gwlad Babilon yn llwyr,a fydd neb yn byw yno.
30 Bydd milwyr Babilon yn stopio ymladd.Byddan nhw'n cuddio yn eu caerau.Fydd ganddyn nhw ddim nerth i gario mlaen;byddan nhw'n wan fel merched.Bydd eu tai yn y ddinas yn cael eu llosgi.Bydd barrau eu giatiau wedi eu torri.