31 Bydd negeswyr yn rhedeg, un ar ôl y llall,i ddweud wrth frenin Babilonfod y ddinas gyfan wedi cael ei dal.
32 Mae'r rhydau, lle gallai pobl ddianc, wedi eu cymryd.Mae'r corsydd brwyn, lle gallai pobl guddio, wedi eu llosgi.Mae'r fyddin mewn panig.
33 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud:“Bydd Babilon fel llawr dyrnu pan mae'n cael ei sathru.Mae amser cynhaeaf yn dod yn fuan iawn!”
34 Nebwchadnesar, brenin Babilon, wnaeth fy llarpio,a gyrru fy mhobl i ffwrdd.Llyncodd fi fel anghenfil,a llenwi ei fol gyda'm cyfoeth.Gadawodd fi fel plât gwagwedi ei glirio'n llwyr.
35 “Rhaid i Babilon dalu am y ffordd gwnaeth hi ein treisio ni!”meddai'r bobl sy'n byw yn Seion.“Dial ar bobl Babilonia am dywallt gwaed fy mhobl,”meddai Jerwsalem.
36 Felly, dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i weithredu ar dy ran di.Dw i'n mynd i dalu'n ôl i'r Babiloniaid am beth wnaethon nhw i ti.Dw i'n mynd i wagio ei chyflenwad dŵr hi,a sychu ei ffynhonnau.
37 Bydd Babilon yn bentwr o rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.Bydd pethau ofnadwy yn digwydd ynoa bydd pobl yn chwibanu mewn rhyfeddod.Fydd neb yn byw yno.