46 Peidiwch torri'ch calon na bod ag ofnpan glywch y si'n mynd ar led drwy'r wlad.Bydd un stori'n mynd o gwmpas un flwyddyn,ac un arall y flwyddyn wedyn.Bydd trais ofnadwy yn y wlad,wrth i lywodraethwyr ymladd yn erbyn ei gilydd.
47 Mae'r amser yn dodpan fydda i'n cosbi eilun-dduwiau Babilon.Bydd y wlad i gyd yn cael ei chywilyddio,a bydd pobl yn syrthio'n farw ym mhobman.
48 Bydd y nefoedd a'r ddaear a phopeth ynddyn nhwyn canu'n llawen am beth fydd yn digwydd i Babilon.Bydd byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd i'w dinistrio nhw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
49 “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel,ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.”
50 Chi bobl wnaeth lwyddo i ddiancrhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon,ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran!Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell.Meddyliwch am Jerwsalem.
51 “Mae gynnon ni gywilydd;dŷn ni wedi cael ein sarhau.Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau.Aeth paganiaid i mewni'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.”
52 “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw,a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poendrwy'r wlad i gyd.