49 “Rhaid i Babilon syrthio, am ei bod wedi lladd cymaint o bobl Israel,ac am ei bod wedi lladd cymaint o bobl drwy'r byd i gyd.”
50 Chi bobl wnaeth lwyddo i ddiancrhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon,ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran!Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell.Meddyliwch am Jerwsalem.
51 “Mae gynnon ni gywilydd;dŷn ni wedi cael ein sarhau.Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau.Aeth paganiaid i mewni'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.”
52 “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw,a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poendrwy'r wlad i gyd.
53 Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr,a'i chaerau'n anhygoel o gryfion,byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
54 Gwrandwch! – pobl yn gweiddi yn Babilon!Sŵn dinistr ofnadwy'n dod o wlad Babilonia!
55 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio Babilon.Mae e'n mynd i roi taw ar ei thwrw!Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau'n rhuo –byddin a'i sŵn yn fyddarol.