50 Chi bobl wnaeth lwyddo i ddiancrhag cael eich lladd gan gleddyf Babilon,ewch allan ohoni ar frys! Peidiwch loetran!Cofiwch yr ARGLWYDD yn y wlad bell.Meddyliwch am Jerwsalem.
51 “Mae gynnon ni gywilydd;dŷn ni wedi cael ein sarhau.Mae'r gwarth i'w weld ar ein hwynebau.Aeth paganiaid i mewni'r lleoedd sanctaidd yn nheml yr ARGLWYDD.”
52 “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD,“pan fydda i'n cosbi eu heilun-dduwiau nhw,a bydd pobl wedi eu hanafu yn griddfan mewn poendrwy'r wlad i gyd.
53 Hyd yn oed petai waliau Babilon yn cyrraedd i'r awyr,a'i chaerau'n anhygoel o gryfion,byddwn i'n anfon byddin i'w dinistrio hi,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
54 Gwrandwch! – pobl yn gweiddi yn Babilon!Sŵn dinistr ofnadwy'n dod o wlad Babilonia!
55 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddinistrio Babilon.Mae e'n mynd i roi taw ar ei thwrw!Bydd sŵn y gelyn fel sŵn tonnau'n rhuo –byddin a'i sŵn yn fyddarol.
56 Ydy, mae'r gelyn sy'n dinistrio'n ymosod!Bydd milwyr Babilon yn cael eu dal,a'i bwâu yn cael eu torri.Mae'r ARGLWYDD yn Dduw sy'n cosbi.Bydd yn talu'n ôl yn llawn iddyn nhw!