57 “Bydda i'n meddwi ei swyddogion a'i gwŷr doeth,ei llywodraethwyr, ei phenaethiaid a'i milwyr.Byddan nhw'n syrthio i gysgu am byth.Fyddan nhw ddim yn deffro eto,” meddai'r Brenin—yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.
58 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Bydd wal drwchus dinas Babilon yn cael ei bwrw i lawr.Bydd ei giatiau uchel yn cael eu llosgi.Bydd ymdrechion y bobloedd i ddim byd.Bydd holl lafur y gwledydd yn cael ei losgi!”
59 Dyna'r negeseuon oedd y proffwyd Jeremeia wedi eu rhoi i Seraia (mab Nereia ac ŵyr i Machseia). Seraia oedd swyddog llety'r brenin, ac roedd wedi mynd gyda Sedeceia, brenin Jwda, i Babilon yn y bedwaredd flwyddyn i Sedeceia fel brenin.
60 Roedd Jeremeia wedi ysgrifennu mewn sgrôl am y dinistr ofnadwy oedd yn mynd i ddod ar Babilon.
61 Yna dwedodd wrth Seraia: “Gwna'n siŵr dy fod yn darllen y cwbl yn uchel i'r bobl ar ôl cyrraedd Babilon.
62 Wedyn gweddïa, ‘O ARGLWYDD, rwyt ti wedi dweud yn glir dy fod ti'n mynd i ddinistrio'r lle yma. Fydd dim pobl nac anifeiliaid yn gallu byw yma. Bydd yn lle anial am byth.’
63 Ar ôl darllen y sgrôl, rhwyma hi wrth garreg a'i thaflu i ganol yr Afon Ewffrates.