7 Roedd Babilon fel cwpan aur yn llaw'r ARGLWYDD.Roedd wedi gwneud y byd i gyd yn feddw.Roedd gwledydd wedi yfed y gwin ohoni,ac wedi eu gyrru'n wallgof.
8 Ond yn sydyn mae Babilon yn mynd i syrthio a dryllio.“Udwch drosti!Dewch ag eli i wella'i briwiau!Falle y bydd hi'n cael ei hiacháu!
9 ‘Bydden ni wedi ceisio helpu Babilon,ond doedd dim modd ei helpu.Gadewch i ni fynd adre i'n gwledydd ein hunain.Mae'r farn sy'n dod arni'n anferthol!Mae fel pentwr enfawr sy'n ymestyn i'r entrychion,ac yn codi i'r cymylau!’”
10 “Mae'r ARGLWYDD wedi achub ein cam ni.Dewch! Gadewch i ni fynd i ddweud wrth Seionbeth mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ei wneud.”
11 “Rhowch fin ar y saethau!Llanwch eich cewyll!”(Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i frenhinoedd Media godi yn erbyn Babilon. Mae e'n bwriadu dinistrio Babilon. Dyna sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i ddial arnyn nhw. Mae'n mynd i ddial arnyn nhw am beth wnaethon nhw i'w deml e.)
12 “Rhowch yr arwydd i ymosodar waliau Babilon!Dewch â mwy o filwyr!Gosodwch wylwyr o'i chwmpas!Paratowch grwpiau i ymosod arni!”Mae'r ARGLWYDD yn mynd i wneudbeth mae wedi ei gynllunio yn erbyn pobl Babilon.
13 “Ti'n byw yng nghanol yr afonydd a'r camlesi.Rwyt wedi casglu cymaint o drysorau.Ond mae dy ddiwedd wedi dod;mae edau dy fywyd ar fin cael ei dorri!”