1 “Bobl Benjamin, ffowch i le saff!A dianc o ganol Jerwsalem!Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa,a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl.Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.
2 Mae Seion hardd fel porfa hyfryd,
3 ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd.Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas,a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl!
4 ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn!Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’‘Hen dro, mae'n dechrau nosi –mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’
5 ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos,a dinistrio ei phalasau yn llwyr.’