16 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dych chi'n sefyll ar groesffordd,felly holwch am yr hen lwybrau –sef y ffordd sy'n arwain i fendith.Ewch ar hyd honno,a cewch orffwys wedyn.”Ond ymateb y bobl oedd “Na, dim diolch!”
17 “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi.Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb.Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
18 Felly chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn.Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
19 Gwranda dithau ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio.Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud,ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.
20 Beth ydy'r pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi,neu sbeisiau persawrus o wlad bell?Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi,a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.”
21 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw,i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio.Bydd rhieni a phlant,cymdogion a ffrindiau yn marw.”
22 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd.Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i ryfel.