23 Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf;maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd.Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo.Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig,ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.”
24 “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw,Does dim byd allwn ni ei wneud.Mae dychryn wedi gafael ynon nifel gwraig mewn poen wrth gael babi.
25 Paid mentro allan i gefn gwlad.Paid mynd allan ar y ffyrdd.Mae cleddyf y gelyn yn barod.Does ond dychryn ym mhobman!”
26 “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw.Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw –dyna'r golled fwya chwerw!Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
27 “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl,fel un sy'n profi safon metel.Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
28 “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau,ac mor galed â haearn neu bres.Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
29 Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi.Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud.Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.