26 “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw.Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw –dyna'r golled fwya chwerw!Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
27 “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl,fel un sy'n profi safon metel.Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
28 “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau,ac mor galed â haearn neu bres.Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
29 Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi.Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud.Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.
30 ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw,am fod yr ARGLWYDD wedi eu gwrthod nhw.”