4 ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn!Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’‘Hen dro, mae'n dechrau nosi –mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’
5 ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos,a dinistrio ei phalasau yn llwyr.’
6 Ie, dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau.Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi;does dim byd ond gormes ynddi!
7 Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid,fel dŵr yn llifo o ffynnon.Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd;a dw i'n gweld ond pobl wedi eu hanafu ym mhob man.’
8 Felly dysga dy wers, Jerwsalem!Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr.Fydd neb yn byw ynot ti!”
9 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi eu gadael ar ôl.Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waithi wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi ei adael.”
10 “Ond pwy sy'n mynd i wrandohyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw?Maen nhw'n gwrthod gwrando.Dŷn nhw'n cymryd dim sylw!Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc –does ganddyn nhw ddim eisiau ei glywed!