8 Felly dysga dy wers, Jerwsalem!Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr.Fydd neb yn byw ynot ti!”
9 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi eu gadael ar ôl.Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waithi wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi ei adael.”
10 “Ond pwy sy'n mynd i wrandohyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw?Maen nhw'n gwrthod gwrando.Dŷn nhw'n cymryd dim sylw!Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc –does ganddyn nhw ddim eisiau ei glywed!
11 Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw, ARGLWYDD;alla i ddim ei ddal yn ôl.”“Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd,ac ar y criw o bobl ifanc.Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd,y bobl hŷn a'r henoed.
12 Bydd eu tai yn cael eu rhoi i'r gelynion,a'u caeau, a'u gwragedd hefyd!Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13 “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –y bobl gyffredin a'r arweinwyr.Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –maen nhw i gyd yn twyllo!
14 Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw;Ond dydy popeth ddim yn iawn!