14 Felly, dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma dych chi'n meddwl fydd yn eich cadw chi'n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i'n mynd i ddinistrio'r lle yma rois i i chi a'ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddinistrio Seilo!
15 Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”
16 “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti.
17 Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw'n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem?
18 Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i.
19 Ond dim fi ydy'r un sy'n cael ei frifo!” meddai'r ARGLWYDD. “Brifo nhw'u hunain, a cywilyddio nhw'n hunain maen nhw yn y pen draw.”
20 Felly dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n wyllt gandryll, a bydda i'n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.”