21 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd!
22 Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i'w llosgi ac aberthau wnes i.
23 Beth ddywedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud. Bydda i'n Dduw i chi a byddwch chi'n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i'n dweud wrthoch chi, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi.’
24 “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes.
25 Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi, dro ar ôl tro.
26 Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid.
27 “Dywed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di'n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb.