6 peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain!
7 Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.
8 “‘Ond dyma chi, yn credu'r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd!
9 Ydy'n iawn eich bod chi'n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw,
10 ac wedyn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud “Dŷn ni'n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna!
11 Ydy'r deml yma – fy nheml i – wedi troi yn guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth ydych chi'n wneud,’” meddai'r ARGLWYDD.
12 “‘Ewch i Seilo, ble roeddwn i'n cael fy addoli o'r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel.