18 “Dw i wedi fy llethu gan dristwch.Dw i'n teimlo'n sâl.
19 Gwrandwch ar fy mhobl druan yn gweiddiar hyd a lled y wlad:‘Ydy'r ARGLWYDD wedi gadael Seion?Ydy ei Brenin hi ddim yno bellach?’”“Pam maen nhw wedi fy nigio igyda'u heilunod a'u delwau diwerth?
20 ‘Mae'r cynhaeaf heibio, mae'r haf wedi dod i ben,a dŷn ni'n dal ddim wedi'n hachub,’ medden nhw.”
21 Dw i'n diodde wrth weld fy mhobl annwyl i'n diodde.Dw i'n galaru. Dw i'n anobeithio.
22 Oes yna ddim eli yn Gilead?Oes dim meddyg yno?Felly pam nad ydy briw fy mhobl wedi gwella?