3 “Bydd rhai o'r bobl ddrwg yma wedi byw drwy'r cwbl a'u hanfon i ffwrdd i leoedd eraill. Ond byddai'n well gan y rheiny petaen nhw wedi marw!”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
4 “Jeremeia, dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Pan mae pobl yn syrthio, ydyn nhw ddim yn codi eto?Pan maen nhw'n colli'r ffordd, ydyn nhw ddim yn troi yn ôl?
5 Os felly, pam mae'r bobl yma'n dal i fynd y ffordd arall?Pam mae pobl Jerwsalem yn dal i droi cefn arna i?Maen nhw'n dal gafael mewn twyll,ac yn gwrthod troi'n ôl ata i.
6 Dw i wedi gwrando'n ofalus arnyn nhw,a dŷn nhw ddim yn dweud y gwir.Does neb yn sori am y drwg maen nhw wedi ei wneud;neb yn dweud, “Dw i ar fai.”Maen nhw i gyd yn mynd eu ffordd eu hunain,fel ceffyl yn rhuthro i'r frwydr.
7 Mae'r crëyr yn gwybod pryd i ymfudo,a'r durtur, y wennol a'r garan.Maen nhw i gyd yn dod yn ôl ar yr adeg iawn o'r flwyddyn.Ond dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylwo'r hyn dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ofyn ganddyn nhw.
8 Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth,mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni.”?Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethausy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn.
9 Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa.Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD –dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!