8 Sut allwch chi ddweud, “Dŷn ni'n ddoeth,mae Cyfraith yr ARGLWYDD gynnon ni.”?Y gwir ydy fod athrawon y gyfraith yn ysgrifennu pethausy'n gwyrdroi beth mae'n ei ddweud go iawn.
9 Bydd y dynion doeth yn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n syfrdan wrth gael eu cymryd i'r ddalfa.Nhw wnaeth wrthod neges yr ARGLWYDD –dydy hynny ddim yn ddoeth iawn!
10 Felly bydda i'n rhoi eu gwragedd i ddynion eraill,a'u tir i'w concwerwyr.Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest –y bobl gyffredin a'r arweinwyr.Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid –maen nhw i gyd yn twyllo!
11 Mae'r help mae'n nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag.“Bydd popeth yn iawn,” medden nhw;Ond dydy popeth ddim yn iawn!
12 Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth!Ond na! does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd.Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido!Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall.Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.’”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
13 “Pan oeddwn i eisiau casglu'r cynhaeaf,” meddai'r ARGLWYDD“doedd dim grawnwin na ffigys yn tyfu ar y coed.Roedd hyd yn oed y dail ar y coed wedi gwywo.Roedden nhw wedi colli popeth rois i iddyn nhw.”
14 “Pam ydyn ni'n eistedd yma yn gwneud dim?Gadewch i ni ddianc i'r trefi caerog, a marw yno.Mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi ein condemnio ni i farwolaeth.Mae e wedi gwneud i ni yfed dŵr gwenwynigam ein bod wedi pechu yn ei erbyn.