12 Pwy sy'n ddigon doeth i ddeall pam mae hyn wedi digwydd? Gyda pwy mae'r ARGLWYDD wedi siarad, er mwyn iddo esbonio'r peth?Pam mae'r wlad wedi ei difetha'n llwyr,a'r tir fel anialwch does neb yn teithio trwyddo?
13 A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Am eu bod nhw wedi troi cefn ar y ddysgeidiaeth rois i iddyn nhw. Dŷn nhw ddim wedi gwrando arna i, a gwneud beth ro'n i'n ddweud.
14 Yn lle hynny maen nhw wedi bod yn hollol ystyfnig a gwneud beth maen nhw eisiau, ac wedi addoli'r duwiau Baal yr un fath â'u hynafiaid.
15 Felly, dyma dw i, Duw Israel, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn ei ddweud:‘Dw i'n mynd i roi profiadau chwerw yn fwyd i'r bobl,a dŵr gwenwynig barn iddyn nhw i'w yfed.’
16 “Dw i'n mynd i'w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.”
17 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd.Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw.Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.
18 Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys,a dechrau wylofain yn uchel.Crïo nes bydd y dagrau'n llifo,a'n llygaid ni'n socian.