16 “Dw i'n mynd i'w gyrru nhw ar chwâl. Byddan nhw ar goll mewn gwledydd dŷn nhw, fel eu hynafiaid, yn gwybod dim amdanyn nhw. Bydd byddinoedd eu gelynion yn mynd ar eu holau nes bydda i wedi eu dinistrio nhw'n llwyr.”
17 Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Meddyliwch yn ofalus beth sy'n digwydd.Galwch am y gwragedd sy'n galaru dros y meirw.Anfonwch am y rhai mwyaf profiadol.
18 Ie, galwch arnyn nhw i ddod ar frys,a dechrau wylofain yn uchel.Crïo nes bydd y dagrau'n llifo,a'n llygaid ni'n socian.
19 Mae sŵn crïo uchel i'w glywed yn Seion:‘Mae hi ar ben arnon ni!Dŷn ni wedi'n cywilyddio'n llwyr,Rhaid i ni adael ein gwlad,achos maen nhw wedi chwalu'n tai ni i gyd.’”
20 “Felly, chi wragedd, gwrandwch beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. Gwrandwch yn ofalus ar ei eiriau.Dysgwch eich merched i alaru.Dysgwch y gân angladdol yma i'ch gilydd:
21 ‘Mae marwolaeth wedi dringo drwy'r ffenestri;mae wedi dod i mewn i'n palasau.Mae wedi cipio ein plant oedd yn chwarae yn y strydoedd,a'r bechgyn ifanc oedd yn cyfarfod ar y sgwâr yn y trefi.’”
22 Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd cyrff marw yn gorweddfel tail wedi ei wasgaru ar gae,neu ŷd wedi ei dorri a'i adael yn sypiau,a neb yn ei gasglu.”