3 “Mae eu tafodau fel bwa wedi ei blygui saethu celwyddau.Maen nhw wedi dod yn bwerus yn y wladdrwy fod yn anonest.Ac maen nhw wedi mynd o ddrwg i waeth!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
4 “Gwyliwch eich ffrindiau!Allwch chi ddim trystio'ch perthnasau hyd yn oed!Maen nhw i gyd yn twyllo ei gilydd,ac yn dweud celwyddau cas am ei gilydd.
5 Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau.Does neb yn dweud y gwir.Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd;yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.
6 Pentyrru gormes ar ben gormes, a twyll ar ben twyll!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7 Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw.Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan?
8 Mae eu tafodau fel saethau marwol,yn dweud celwydd drwy'r amser.Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion,ond yn eu calon yn bwriadu brad!
9 Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”