5 Mae pawb yn twyllo eu ffrindiau.Does neb yn dweud y gwir.Maen nhw wedi hen arfer dweud celwydd;yn pechu, ac yn rhy wan i newid eu ffyrdd.
6 Pentyrru gormes ar ben gormes, a twyll ar ben twyll!Does ganddyn nhw ddim eisiau fy nabod i,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
7 Felly dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud:“Dw i'n mynd i'w puro nhw mewn tân a'u profi nhw.Beth arall alla i ei wneud â'm pobl druan?
8 Mae eu tafodau fel saethau marwol,yn dweud celwydd drwy'r amser.Maen nhw'n dweud eu bod yn dymuno'n dda i'w cymdogion,ond yn eu calon yn bwriadu brad!
9 Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”
10 Dw i'n mynd i grïo'n uchel am y mynyddoedd,a galaru dros diroedd pori'r anialwch.Maen nhw wedi llosgi, a does neb yn teithio'r ffordd honno.Does dim sŵn anifeiliaid yn brefu.Mae hyd yn oed yr adar a'r anifeiliaid gwylltionwedi dianc oddi yno.
11 “Bydda i'n gwneud Jerwsalem yn bentwr o rwbel,ac yn lle i siacaliaid fyw.Bydda i'n dinistrio pentrefi Jwda,a fydd neb yn gallu byw ynddyn nhw.”