1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo, oherwydd yr wyf wedi caledu ei galon a chalon ei weision, er mwyn i mi ddangos yr arwyddion hyn o'm heiddo yn eu plith,
2 ac er mwyn i tithau ddweud wrth dy blant a phlant dy blant, fel y bûm yn trin yr Eifftiaid a gwneud arwyddion yn eu plith; felly, byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.”
3 Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.
4 Os gwrthodi eu rhyddhau, fe ddof â locustiaid i mewn i'th wlad yfory;