Exodus 35 BCN

Deddf y Saboth

1 Casglodd Moses ynghyd holl gynulliad pobl Israel a dweud wrthynt, “Dyma'r hyn y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneud:

2 Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw.

3 Peidiwch hyd yn oed â chynnau tân yn eich cartrefi ar y dydd Saboth.”

Rhoddion ar gyfer y Tabernacl

4 Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

5 Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;

6 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,

7 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,

8 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;

9 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.

Gwaith ar gyfer y Tabernacl

10 “Y mae pob crefftwr yn eich plith i ddod a gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD:

11 y tabernacl, ei babell a'i len, ei fachau a'i fframiau, ei farrau, ei golofnau a'i draed;

12 yr arch a'i pholion, y drugareddfa, y gorchudd;

13 y bwrdd a'i bolion a'i holl lestri, a'r bara gosod;

14 y canhwyllbren ar gyfer y goleuni, ei lestri a'i lampau, a'r olew ar gyfer y golau;

15 allor yr arogldarth a'i pholion, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd, gorchudd drws y tabernacl;

16 allor y poethoffrwm a'r rhwyll bres, ei pholion a'i holl lestri, y noe a'i throed;

17 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed, a gorchudd drws y cyntedd;

18 hoelion y tabernacl a'r cyntedd a'u rhaffau;

19 gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad ac i'w feibion, i wasanaethu fel offeiriaid.”

Offrymau Gwirfoddol y Bobl

20 Yna aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith oddi wrth Moses,

21 a daeth pob un yr oedd ei galon yn ei gyffroi, a'i ysbryd yn ei ennyn, ag offrwm i'r ARGLWYDD i'w ddefnyddio ym mhabell y cyfarfod ar gyfer ei holl wasanaeth, ac ar gyfer y gwisgoedd cysegredig.

22 Felly daethant, yn wŷr a gwragedd, a chynnig o'u gwirfodd freichledau, clustlysau, modrwyau, cadwynau a thlysau aur o bob math; yr oedd pawb yn cyflwyno aur yn offrwm i'r ARGLWYDD.

23 Yr oedd pob un a chanddo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod, yn dod â hwy.

24 Yr oedd pob un a allai gyflwyno offrwm o arian neu bres yn dod ag ef i'r ARGLWYDD; ac yr oedd pob un a chanddo goed acasia addas ar gyfer y gwaith yn dod â hwy.

25 Yr oedd pob gwraig fedrus yn nyddu â'i dwylo, ac yn dod â'i gwaith o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main.

26 Yr oedd pob gwraig a fedrai nyddu blew geifr yn gwneud hynny.

27 Daeth yr arweinwyr â meini onyx, meini i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg,

28 perlysiau ac olew ar gyfer y lamp ac ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd.

29 Pan fyddai gŵr neu wraig trwy holl Israel yn dymuno dod ag unrhyw beth ar gyfer y gwaith a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, byddai'n dod â'i offrwm i'r ARGLWYDD o'i wirfodd.

Crefftwyr y Tabernacl

30 Dywedodd Moses wrth bobl Israel: “Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda,

31 ac wedi ei lenwi ag ysbryd Duw, ac â doethineb a deall, â gwybodaeth hefyd a phob rhyw ddawn,

32 er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain, a gweithio ag aur, arian a phres,

33 a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith.

34 Hefyd, ysbrydolodd yr ARGLWYDD ef ac Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan i ddysgu eraill.

35 Llanwodd hwy â'r ddawn i wneud pob math o waith crefftus a chywrain a wneir gan saer neu grefftwr, neu gan un sy'n brodio sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main, neu gan un sy'n gwau.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40