Exodus 37 BCN

Arch y Cyfamod

1 Gwnaeth Besalel arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.

2 Goreurodd hi ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

3 Lluniodd bedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.

4 Gwnaeth bolion o goed acasia a'u goreuro,

5 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.

6 Gwnaeth drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led.

7 Gwnaeth hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro,

8 a gosod un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.

9 Yr oedd dwy adain y cerwbiaid ar led, fel eu bod yn gorchuddio'r drugareddfa; yr oedd y cerwbiaid yn wynebu ei gilydd, â'u hwynebau tua'r drugareddfa.

Bwrdd y Bara Gosod

10 Gwnaeth fwrdd o goed acasia, dau gufydd o hyd, cufydd o led, a chufydd a hanner o uchder.

11 Goreurodd ef ag aur pur drosto, a gwnaeth ymyl aur o'i amgylch.

12 Gwnaeth ffrâm o led llaw o'i gwmpas, ac ymyl aur o amgylch y ffrâm.

13 Gwnaeth hefyd ar ei gyfer bedair o ddolennau aur, a'u clymu wrth y pedair coes yn y pedair congl.

14 Yr oedd y dolennau ar ymyl y ffrâm yn dal y polion oedd yn cludo'r bwrdd.

15 Gwnaeth y polion oedd yn cludo'r bwrdd o goed acasia, a'u goreuro.

16 Gwnaeth lestri a dysglau ar ei gyfer, a ffiolau a chostrelau i dywallt y diodoffrwm; fe'u gwnaeth o aur pur.

Y Canhwyllbren

17 Gwnaeth ganhwyllbren o aur pur. Yr oedd gwaelod y canhwyllbren a'i baladr o ddeunydd gyr, ac yr oedd y pedyll, y cnapiau a'r blodau yn rhan o'r cyfanwaith.

18 Yr oedd chwe chainc yn dod allan o ochrau'r canhwyllbren, tair ar un ochr a thair ar y llall.

19 Ar un gainc yr oedd tair padell ar ffurf almonau, a chnap a blodeuyn arnynt, a thair ar y gainc nesaf; dyna oedd ar y chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

20 Ar y canhwyllbren ei hun yr oedd pedair padell ar ffurf almonau, a chnapiau a blodau arnynt;

21 ac yr oedd un o'r cnapiau dan bob pâr o'r chwe chainc oedd yn dod allan o'r canhwyllbren.

22 Yr oedd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, ac yr oedd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.

23 Gwnaeth ar ei gyfer saith llusern, a gefeiliau a chafnau o aur pur.

24 Gwnaeth y canhwyllbren a'r holl lestri o un dalent o aur pur.

Allor yr Arogldarth

25 Gwnaeth allor o goed acasia ar gyfer llosgi'r arogldarth; yr oedd yn sgwâr, yn gufydd o hyd, a chufydd o led, a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni.

26 Goreurodd hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwnaeth ymyl aur o'i hamgylch.

27 Gwnaeth hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor.

28 Gwnaeth y polion o goed acasia, a'u goreuro.

Olew'r Ennaint a'r Arogldarth

29 Gwnaeth hefyd olew cysegredig ar gyfer eneinio, ac arogldarth peraidd a phur, a chymysgodd hwy fel y gwna peraroglydd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40