Exodus 27 BCN

Yr Allor

1 “Gwna allor sgwâr o goed acasia, pum cufydd o hyd a phum cufydd o led a thri chufydd o uchder.

2 Gwna gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rho haen o bres drosti.

3 Gwna ar ei chyfer lestri i dderbyn y lludw, a rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.

4 Gwna hefyd ar ei chyfer rwyll o rwydwaith pres, a phedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith.

5 Gosod hi dan ymyl yr allor fel bod y rhwydwaith yn ymestyn at hanner yr allor.

6 Gwna hefyd ar gyfer yr allor bolion o goed acasia, a rho haen o bres drostynt.

7 Rhoir y polion drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.

8 Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.

Cyntedd y Tabernacl

9 “Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10 bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11 Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

12 Ar draws y cyntedd, ar yr ochr orllewinol, bydd llenni hanner can cufydd o hyd, â deg colofn a deg troed.

13 Ar yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, bydd lled y cyntedd yn hanner can cufydd.

14 Bydd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,

15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed.

16 Ym mhorth y cyntedd bydd llen ugain cufydd o hyd, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio; bydd iddi bedair colofn a phedwar troed.

17 Bydd cylchau arian ar yr holl golofnau o amgylch y cyntedd, a bydd eu bachau o aur a'u traed o bres.

18 Bydd y cyntedd yn gan cufydd o hyd a hanner can cufydd o led a phum cufydd o uchder, â llenni o liain main wedi ei nyddu, a thraed o bres.

19 Pres hefyd fydd pob un o'r llestri ar gyfer holl wasanaeth y tabernacl, a phob un o'r hoelion a fydd yn y tabernacl a'r cyntedd.

Gofal y Lamp

20 “Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur wedi ei wasgu o'r olifiau ar gyfer y lamp, er mwyn iddi losgi'n ddi-baid.

21 Bydd Aaron a'i feibion yn cadw golwg ar y lamp o'r hwyr hyd y bore gerbron yr ARGLWYDD ym mhabell y cyfarfod y tu allan i'r gorchudd sydd o flaen y dystiolaeth. Bydd yn ddeddf i'w chadw am byth gan bobl Israel dros y cenedlaethau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40