Exodus 3 BCN

Duw yn Galw Moses

1 Yr oedd Moses yn bugeilio defaid ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian, ac wrth iddo arwain y praidd ar hyd cyrion yr anialwch, daeth i Horeb, mynydd Duw.

2 Yno ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo mewn fflam dân o ganol perth. Edrychodd yntau a gweld y berth ar dân ond heb ei difa.

3 Dywedodd Moses, “Yr wyf am droi i edrych ar yr olygfa ryfedd hon, pam nad yw'r berth wedi llosgi.”

4 Pan welodd yr ARGLWYDD ei fod wedi troi i edrych, galwodd Duw arno o ganol y berth, “Moses, Moses.” Atebodd yntau, “Dyma fi.”

5 Yna dywedodd Duw, “Paid â dod ddim nes; tyn dy esgidiau oddi am dy draed, oherwydd y mae'r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.”

6 Dywedodd hefyd, “Duw dy dadau wyf fi, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob.” Cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd yr oedd arno ofn edrych ar Dduw.

7 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi gweld adfyd fy mhobl yn yr Aifft a chlywed eu gwaedd o achos eu meistri gwaith, a gwn am eu doluriau.

8 Yr wyf wedi dod i'w gwaredu o law'r Eifftiaid, a'u harwain o'r wlad honno i wlad ffrwythlon ac eang, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, cartref y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.

9 Yn awr y mae gwaedd pobl Israel wedi dod ataf, ac yr wyf wedi gweld fel y bu'r Eifftiaid yn eu gorthrymu.

10 Tyrd, yr wyf yn dy anfon at Pharo er mwyn iti arwain fy mhobl, yr Israeliaid, allan o'r Aifft.”

11 Ond gofynnodd Moses i Dduw, “Pwy wyf fi i fynd at Pharo ac arwain pobl Israel allan o'r Aifft?”

12 Dywedodd yntau, “Byddaf fi gyda thi; a dyma fydd yr arwydd mai myfi sydd wedi dy anfon: wedi iti arwain y bobl allan o'r Aifft, byddwch yn addoli Duw ar y mynydd hwn.”

13 Yna dywedodd Moses wrth Dduw, “Os af at bobl Israel a dweud wrthynt, ‘Y mae Duw eich hynafiaid wedi fy anfon atoch’, beth a ddywedaf wrthynt os gofynnant am ei enw?”

14 Dywedodd Duw wrth Moses, “Ydwyf yr hyn ydwyf. Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Ydwyf sydd wedi fy anfon atoch.’ ”

15 Dywedodd Duw eto wrth Moses, “Dywed hyn wrth bobl Israel, ‘Yr ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob sydd wedi fy anfon atoch.’ Dyma fydd fy enw am byth, ac fel hyn y cofir amdanaf gan bob cenhedlaeth.

16 Dos, a chynnull ynghyd henuriaid Israel, a dywed wrthynt, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw eich tadau, Duw Abraham, Isaac a Jacob, wedi ymddangos i mi a dweud: Yr wyf wedi ymweld â chwi ac edrych ar yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft,

17 ac yr wyf wedi penderfynu eich arwain allan o adfyd yr Aifft i wlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.’

18 Bydd henuriaid Israel yn gwrando arnat; dos dithau gyda hwy at frenin yr Aifft a dweud wrtho, ‘Y mae'r ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid, wedi ymweld â ni; yn awr gad inni fynd daith dridiau i'r anialwch er mwyn inni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw.’

19 Ond yr wyf yn gwybod na fydd brenin yr Aifft yn caniatáu i chwi fynd oni orfodir ef â llaw gadarn.

20 Felly, estynnaf fy llaw a tharo'r Eifftiaid â'r holl ryfeddodau a wnaf yn eu plith; wedi hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd.

21 Gwnaf i'r Eifftiaid edrych yn ffafriol ar y bobl hyn, a phan fyddwch yn ymadael, nid ewch yn waglaw,

22 oherwydd bydd pob gwraig yn gofyn i'w chymdoges neu i unrhyw un yn ei thŷ am dlysau o arian ac o aur, a dillad. Gwisgwch hwy am eich meibion a'ch merched, ac ysbeiliwch yr Aifft.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40