Exodus 22 BCN

Iawn am Eiddo

1 “Os yw rhywun yn lladrata ych neu ddafad ac yn ei ladd neu ei werthu, y mae i dalu'n ôl bum ych am yr ych, a phedair dafad am y ddafad.

2 “Os bydd rhywun yn dal lleidr yn torri i mewn, ac yn ei daro a'i ladd, ni fydd yn euog o'i waed;

3 ond os yw'n ei ddal ar ôl i'r haul godi, fe fydd yn euog o'i waed.“Y mae lleidr i dalu'n ôl yn llawn, ac os nad oes dim ganddo, y mae ef ei hun i'w werthu am ei ladrad.

4 “Os ceir yn fyw ym meddiant lleidr anifail wedi ei ddwyn, boed yn ych neu'n asyn neu'n ddafad, y mae'r lleidr i dalu'n ôl ddwbl ei werth.

5 “Pan yw rhywun yn gadael ei faes neu ei winllan i'w pori, ac yna'n gyrru ei anifail i bori ym maes rhywun arall, y mae i dalu'n ôl o'r pethau gorau sydd yn ei faes a'i winllan ei hun.

6 “Pan yw tân yn torri allan ac yn cydio mewn drain ac yn difa ysgubau ŷd, neu ŷd heb ei fedi, neu faes, y mae'r sawl a gyneuodd y tân i dalu'n ôl yn llawn.

7 “Pan yw rhywun yn rhoi i'w gymydog arian neu ddodrefn i'w cadw iddo, a'r rheini'n cael eu lladrata o'i dŷ, y mae'r lleidr, os delir ef, i dalu'n ôl yn ddwbl.

8 Os na ddelir y lleidr, dyger perchennog y tŷ o flaen Duw i weld a estynnodd ei law at eiddo'i gymydog ai peidio.

9 “Mewn unrhyw achos o drosedd ynglŷn ag ych, asyn, dafad, dilledyn, neu unrhyw beth coll y mae rhywun yn dweud mai ei eiddo ef ydyw, dyger achos y ddau o flaen Duw; ac y mae'r sawl y bydd Duw yn ei gael yn euog i dalu'n ôl yn ddwbl i'w gymydog.

10 “Pan yw rhywun yn rhoi asyn, ych, dafad, neu unrhyw anifail i'w gymydog i'w gadw iddo, a'r anifail yn marw, neu'n cael ei niweidio, neu ei gipio ymaith, heb i neb ei weld,

11 y mae'r naill i dyngu i'r llall yn enw'r ARGLWYDD nad yw wedi estyn ei law at eiddo'i gymydog; y mae'r perchennog i dderbyn hyn, ac nid yw'r llall i dalu'n ôl.

12 Ond os cafodd ei ladrata oddi arno, y mae i dalu'n ôl i'r perchennog.

13 Os cafodd ei larpio, y mae i ddod â'r corff yn dystiolaeth, ac nid yw i dalu'n ôl am yr hyn a larpiwyd.

14 “Pan yw rhywun yn benthyca anifail gan ei gymydog, a hwnnw'n cael ei niweidio, neu'n marw heb i'w berchennog fod gydag ef, y mae'r sawl a'i benthyciodd i dalu'n ôl yn llawn.

15 Ond os oedd ei berchennog gydag ef, nid yw i dalu'n ôl; os oedd ar log, yna'r llog sy'n ddyledus.

Deddfau Moesol a Chrefyddol

16 “Pan yw rhywun yn hudo gwyryf nad yw wedi ei dyweddïo, ac yn gorwedd gyda hi, y mae i roi gwaddol amdani, a'i chymryd yn wraig.

17 Ond os yw ei thad yn gwrthod yn llwyr ei rhoi iddo, y mae i dalu arian sy'n gyfwerth â'r gwaddol am wyryf.

18 “Paid â gadael i ddewines fyw.

19 “Pwy bynnag sy'n gorwedd gydag anifail, rhodder ef i farwolaeth.

20 “Pwy bynnag sy'n aberthu i unrhyw dduw heblaw'r ARGLWYDD yn unig, distrywier ef yn llwyr.

21 “Paid â gwneud cam â'r estron, na'i orthrymu, oherwydd estroniaid fuoch chwi yng ngwlad yr Aifft.

22 Peidiwch â cham-drin y weddw na'r amddifad.

23 Os byddwch yn eu cam-drin a hwythau'n galw arnaf, byddaf yn sicr o glywed eu cri.

24 Bydd fy nicter yn cael ei gyffroi, ac fe'ch lladdaf â'r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon a'ch plant yn amddifaid.

25 “Pan fenthyci arian i unrhyw un o'm pobl sy'n dlawd yn eich plith, paid ag ymddwyn tuag ato fel y gwna'r echwynnwr, a phaid â mynnu llog ganddo.

26 Os cymeri fantell dy gymydog yn wystl, yr wyt i'w rhoi'n ôl iddo cyn machlud haul,

27 oherwydd dyna'r unig orchudd sydd ganddo, a dyna'r wisg sydd am ei gorff; beth arall sydd ganddo i gysgu ynddo? Os bydd yn galw arnaf fi, fe wrandawaf arno am fy mod yn drugarog.

28 “Paid â chablu Duw, na melltithio pennaeth o blith dy bobl.

29 “Paid ag oedi offrymu o'th ffrwythau aeddfed neu o gynnyrch dy winwryf.“Yr wyt i gyflwyno i mi dy fab cyntafanedig.

30 Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th ychen a'th ddefaid; bydded pob un gyda'i fam am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd cyflwyner ef i mi.

31 “Byddwch yn ddynion wedi eu cysegru i mi, a pheidiwch â bwyta cig dim sydd wedi ei ysglyfaethu yn y maes; yn hytrach, taflwch ef i'r cŵn.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40