Exodus 12 BCN

Y Pasg

1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron yng ngwlad yr Aifft,

2 “Bydd y mis hwn i chwi yn gyntaf o'r misoedd; hwn fydd y mis cyntaf o'ch blwyddyn.

3 Dywedwch wrth holl gynulleidfa Israel fod pob dyn, ar y degfed dydd o'r mis hwn, i gymryd oen ar gyfer ei deulu, un i bob teulu.

4 Os bydd un oen yn ormod i'r teulu, gallant ei rannu â'r cymdogion agosaf, yn ôl eu nifer, a rhannu cost yr oen yn ôl yr hyn y mae pob un yn ei fwyta.

5 Rhaid i bob oen fod yn wryw blwydd heb nam, wedi ei gymryd o blith y defaid neu o blith y geifr.

6 Yr ydych i'w cadw hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis hwn, ac yna bydd pob aelod o gynulleidfa Israel yn eu lladd fin nos.

7 Yna byddant yn cymryd peth o'r gwaed a'i daenu ar ddau bost a chapan drws y tai lle y bwyteir hwy.

8 Y maent i fwyta'r cig y noson honno wedi ei rostio wrth dân, a'i fwyta gyda bara croyw a llysiau chwerw.

9 Peidiwch â bwyta dim ohono'n amrwd nac wedi ei ferwi mewn dŵr, ond wedi ei rostio wrth dân, yn ben, coesau a pherfedd.

10 Peidiwch â gadael dim ohono ar ôl hyd y bore; os bydd peth ohono ar ôl yn y bore, llosgwch ef yn y tân.

11 “Dyma sut yr ydych i'w fwyta: yr ydych i'w fwyta ar frys â'ch gwisg wedi ei thorchi, eich esgidiau am eich traed, a'ch ffon yn eich llaw. Pasg yr ARGLWYDD ydyw.

12 Y noson honno, byddaf yn tramwyo trwy wlad yr Aifft ac yn lladd pob cyntafanedig sydd ynddi, yn ddyn ac anifail, a byddaf yn dod â barn ar dduwiau'r Aifft; myfi yw'r ARGLWYDD.

13 Bydd y gwaed yn arwydd ar y tai y byddwch chwi ynddynt; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft.

Gŵyl y Bara Croyw

14 “Bydd y dydd hwn yn ddydd i'w gofio i chwi, ac yr ydych i'w gadw yn ŵyl i'r ARGLWYDD; cadwch yr ŵyl yn ddeddf am byth dros y cenedlaethau.

15 Am saith diwrnod yr ydych i fwyta bara croyw; ar y dydd cyntaf bwriwch y surdoes allan o'ch tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd o'r dydd cyntaf hyd y seithfed yn cael ei ddiarddel o Israel.

16 Ar y dydd cyntaf ac ar y seithfed, bydd cyfarfod cysegredig; ni wneir dim gwaith yn ystod y dyddiau hynny, heblaw paratoi bwyd i bawb i'w fwyta; dyna'r cyfan.

17 Cadwch hefyd ŵyl y Bara Croyw, am mai ar y dydd hwn y deuthum â'ch lluoedd allan o wlad yr Aifft; am hynny y mae'r dydd hwn i'w gadw'n ddeddf am byth dros y cenedlaethau.

18 Yr ydych i fwyta bara croyw o hwyrddydd y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf hyd yr hwyr ar yr unfed dydd ar hugain.

19 Am saith diwrnod nid ydych i gadw surdoes yn eich tai, oherwydd bydd pwy bynnag sy'n bwyta bara lefeinllyd yn cael ei ddiarddel o gynulleidfa Israel, boed yn estron neu'n frodor.

20 Peidiwch â bwyta dim sydd wedi ei lefeinio, ond ym mha le bynnag yr ydych yn byw, bwytewch fara croyw.”

Y Pasg Cyntaf

21 Yna galwodd Moses ynghyd holl henuriaid Israel, a dweud wrthynt, “Dewiswch yr ŵyn ar gyfer eich teuluoedd, a lladdwch oen y Pasg.

22 Yna cymerwch dusw o isop a'i drochi yn y gwaed fydd yn y cawg, a thaenwch y gwaed ar gapan a dau bost y drws; nid oes neb ohonoch i fynd allan trwy ddrws ei dŷ hyd y bore.

23 Bydd yr ARGLWYDD yn tramwyo drwy'r Aifft ac yn taro'r wlad, ond pan wêl y gwaed ar gapan a dau bost y drws, bydd yn mynd heibio iddo, ac ni fydd yn gadael i'r Dinistrydd ddod i mewn i'ch tai i'ch difa.

24 Cadwch y ddefod hon yn ddeddf i chwi a'ch plant am byth.

25 Yr ydych i gadw'r ddefod hon pan ddewch i'r wlad y bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi i chwi yn ôl ei addewid.

26 Pan fydd eich plant yn gofyn i chwi, ‘Beth yw'r ddefod hon sydd gennych?’

27 yr ydych i ateb, ‘Aberth Pasg yr ARGLWYDD ydyw, oherwydd pan drawodd ef yr Eifftiaid, aeth heibio i dai'r Israeliaid oedd yn yr Aifft a'u harbed.’ ” Ymgrymodd y bobl mewn addoliad.

28 Aeth yr Israeliaid ymaith a gwneud yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses ac Aaron.

Marwolaeth Pob Cyntafanedig

29 Ar hanner nos trawodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo ar ei orsedd hyd gyntafanedig y carcharor yn ei gell, a chyntafanedig yr anifeiliaid hefyd.

30 Yn ystod y nos cododd Pharo a'i holl weision a'r holl Eifftiaid, a bu llefain mawr yn yr Aifft, oherwydd nid oedd tŷ heb gorff marw ynddo.

31 Felly galwodd ar Moses ac Aaron yn y nos a dweud, “Codwch, ewch ymaith o fysg fy mhobl, chwi a'r Israeliaid, ac ewch i wasanaethu'r ARGLWYDD yn ôl eich dymuniad.

32 Cymerwch eich defaid a'ch gwartheg hefyd, yn ôl eich dymuniad, ac ewch; bendithiwch finnau.”

33 Yr oedd yr Eifftiaid yn crefu ar y bobl i adael y wlad ar frys, oherwydd yr oeddent yn dweud, “Byddwn i gyd yn farw.”

34 Felly, cymerodd y bobl y toes cyn ei lefeinio, gan fod eu llestri tylino ar eu hysgwyddau wedi eu rhwymo gyda'u dillad.

35 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn a ddywedodd Moses wrthynt, a gofyn i'r Eifftiaid am dlysau arian a thlysau aur a dillad;

36 am i'r ARGLWYDD beri i'r Eifftiaid edrych arnynt â ffafr, gadawsant i'r Israeliaid gael yr hyn yr oeddent yn gofyn amdano. Felly yr ysbeiliwyd yr Eifftiaid.

Yr Israeliaid yn Gadael yr Aifft

37 Yna teithiodd yr Israeliaid o Rameses i Succoth; yr oedd tua chwe chan mil o wŷr traed, heblaw gwragedd a phlant.

38 Aeth tyrfa gymysg gyda hwy, ynghyd â llawer iawn o anifeiliaid, yn ddefaid a gwartheg.

39 Yr oedd yn rhaid iddynt bobi'r toes yr oeddent wedi ei gario o'r Aifft yn deisennau croyw am nad oedd wedi ei lefeinio, oherwydd cawsant eu gyrru allan o'r Aifft heb gyfle i oedi nac i baratoi bwyd iddynt eu hunain.

40 Bu'r Israeliaid yn byw yn yr Aifft am bedwar cant tri deg o flynyddoedd.

41 Ar ddiwedd y pedwar cant tri deg o flynyddoedd, i'r diwrnod, aeth holl luoedd yr ARGLWYDD allan o wlad yr Aifft.

42 Am i'r ARGLWYDD y noson honno gadw gwyliadwriaeth i'w dwyn allan o'r Aifft, bydd holl blant Israel ar y noson hon yn cadw gwyliadwriaeth i'r ARGLWYDD dros y cenedlaethau.

Rheolau ynglŷn â'r Pasg

43 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Dyma ddeddf y Pasg: nid yw'r un estron i fwyta ohono,

44 ond caiff pob caethwas a brynwyd ag arian ei fwyta, os yw wedi ei enwaedu;

45 ni chaiff yr estron na'r gwas cyflog ei fwyta.

46 Rhaid ei fwyta mewn un tŷ; nid ydych i fynd â dim o'r cig allan o'r tŷ, ac nid ydych i dorri'r un asgwrn ohono.

47 Y mae holl gynulleidfa Israel i wneud hyn.

48 Os yw dieithryn sy'n byw gyda thi yn dymuno cadw Pasg i'r ARGLWYDD, caiff wneud hynny ar yr amod fod pob gwryw sydd gydag ef yn cael ei enwaedu; fe fydd, felly, fel brodor.

49 Ond ni chaiff yr un gwryw heb ei enwaedu fwyta ohono. Yr un gyfraith fydd i'r brodor ac i'r dieithryn sy'n byw yn eich plith.”

50 Gwnaeth yr Israeliaid yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses ac Aaron,

51 ac ar y dydd hwnnw aeth yr ARGLWYDD â lluoedd Israel allan o wlad yr Aifft.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40