Exodus 17 BCN

Dŵr o'r Graig

1 Aeth holl gynulliad pobl Israel ymaith o anialwch Sin a symud o le i le fel yr oedd yr ARGLWYDD yn gorchymyn, a gwersyllu yn Reffidim; ond nid oedd yno ddŵr i'w yfed.

2 Felly dechreuodd y bobl ymryson â Moses, a dweud, “Rho inni ddŵr i'w yfed.” Ond dywedodd Moses wrthynt, “Pam yr ydych yn ymryson â mi ac yn herio'r ARGLWYDD?”

3 Yr oedd y bobl yn sychedu yno am ddŵr, a dechreuasant rwgnach yn erbyn Moses, a dweud, “Pam y daethost â ni i fyny o'r Aifft? Ai er mwyn ein lladd ni a'n plant a'n hanifeiliaid â syched?”

4 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD a dweud, “Beth a wnaf â'r bobl hyn? Y maent bron â'm llabyddio!”

5 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cerdda o flaen y bobl gyda rhai o henuriaid Israel, a chymer yn dy law y wialen y trewaist y Neil â hi, a dos ymlaen.

6 Pan weli fi'n sefyll o'th flaen ar graig yn Horeb, taro'r graig, a daw dŵr allan ohoni, a chaiff y bobl yfed.” Gwnaeth Moses hyn ym mhresenoldeb henuriaid Israel.

7 Galwodd enw'r lle yn Massa a Meriba, oherwydd ymryson yr Israeliaid ac am iddynt herio'r ARGLWYDD trwy ofyn, “A yw'r ARGLWYDD yn ein plith, ai nac ydyw?”

Rhyfel yn erbyn Amalec

8 Pan ddaeth Amalec i ymladd yn erbyn Israel yn Reffidim,

9 dywedodd Moses wrth Josua, “Dewis dy wŷr, a dos ymaith i ymladd yn erbyn Amalec; yfory, fe gymeraf finnau fy lle ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw.”

10 Gwnaeth Josua fel yr oedd Moses wedi dweud wrtho, ac ymladdodd yn erbyn Amalec; yna aeth Moses, Aaron a Hur i fyny i ben y bryn.

11 Pan godai Moses ei law, byddai Israel yn trechu; a phan ostyngai ei law, byddai Amalec yn trechu.

12 Pan aeth ei ddwylo'n flinedig, cymerwyd carreg a'i gosod dano, ac eisteddodd Moses arni, gydag Aaron ar y naill ochr iddo a Hur ar y llall, yn cynnal ei ddwylo, fel eu bod yn gadarn hyd fachlud haul.

13 Felly, gorchfygodd Josua Amalec a'i bobl â min y cleddyf.

14 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna hyn mewn llyfr yn goffadwriaeth, a mynega'r peth yng nghlyw Josua, sef fy mod am ddileu yn llwyr oddi tan y nefoedd bob atgof am Amalec.”

15 Yna adeiladodd Moses allor a'i henwi'n Jehofa-nissi,

16 a dweud, “Llaw ar faner yr ARGLWYDD! Bydd rhyfel rhwng yr ARGLWYDD ac Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40