Exodus 20 BCN

Y Deg Gorchymyn

1 Llefarodd Duw yr holl eiriau hyn, a dweud:

2 “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw, a'th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ caethiwed.

3 “Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi.

4 “Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod na'r ddaear isod nac yn y dŵr dan y ddaear;

5 nac ymgryma iddynt na'u gwasanaethu, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn Dduw eiddigeddus; yr wyf yn cosbi'r plant am ddrygioni'r rhieni hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai sy'n fy nghasáu,

6 ond yn dangos trugaredd i filoedd o'r rhai sy'n fy ngharu ac yn cadw fy ngorchmynion.

7 “Na chymer enw'r ARGLWYDD dy Dduw yn ofer, oherwydd ni fydd yr ARGLWYDD yn ystyried yn ddieuog y sawl sy'n cymryd ei enw'n ofer.

8 “Cofia'r dydd Saboth, i'w gadw'n gysegredig.

9 Chwe diwrnod yr wyt i weithio a gwneud dy holl waith,

10 ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth yr ARGLWYDD dy Dduw; na wna ddim gwaith y dydd hwnnw, ti na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r estron sydd o fewn dy byrth;

11 oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r cyfan sydd ynddo; ac ar y seithfed dydd fe orffwysodd; am hynny, bendithiodd yr ARGLWYDD y dydd Saboth a'i gysegru.

12 “Anrhydedda dy dad a'th fam, er mwyn amlhau dy ddyddiau yn y wlad y mae'r ARGLWYDD yn ei rhoi iti.

13 “Na ladd.

14 “Na odineba.

15 “Na ladrata.

16 “Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

17 “Na chwennych dŷ dy gymydog, na'i wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i asyn, na dim sy'n eiddo i'th gymydog.”

Y Bobl yn Ofni

18 Pan welodd yr holl bobl y taranau a'r mellt, yr utgorn yn seinio a'r mynydd yn mygu, safasant o hirbell mewn petruster,

19 a dweud wrth Moses, “Llefara di wrthym, ac fe wrandawn; ond paid â gadael i Dduw lefaru wrthym, rhag inni farw.”

20 Dywedodd Moses wrthynt, “Peidiwch ag ofni, oherwydd fe ddaeth Duw i'ch profi, er mwyn ichwi ddal i'w barchu ef, a pheidio â phechu.”

Sut Allor i'w Chodi

21 Safodd y bobl o bell, ond nesaodd Moses at y tywyllwch lle'r oedd Duw.

22 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Fel hyn y dywedi wrth bobl Israel: ‘Gwelsoch i mi lefaru wrthych o'r nefoedd.

23 Peidiwch â gwneud duwiau o arian nac o aur i'w haddoli gyda mi.

24 Gwna imi allor o bridd, ac abertha arni dy boethoffrymau a'th heddoffrymau, dy ddefaid a'th ychen; yna mi ddof atat i'th fendithio ym mha le bynnag y coffeir fy enw.

25 Ond os gwnei imi allor o gerrig, paid â'i gwneud o gerrig nadd; oherwydd wrth iti ei thrin â'th forthwyl, yr wyt yn ei halogi.

26 Hefyd, paid â mynd i fyny i'm hallor ar risiau, rhag iti amlygu dy noethni.’

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40