1 “Paid â lledaenu straeon ofer. Paid ag ymuno â'r drygionus i fod yn dyst celwyddog.
2 Paid â dilyn y lliaws i wneud drwg, nac ochri gyda'r mwyafrif i wyrdroi barn wrth dystio mewn achos cyfreithiol.
3 Paid â dangos ffafr tuag at y tlawd yn ei achos.
4 “Pan ddoi ar draws ych dy elyn neu ei asyn yn crwydro, dychwel ef iddo.
5 Os gweli asyn y sawl sy'n dy gasáu yn crymu dan ei lwyth, paid â'i adael fel y mae, ond dos i estyn cymorth iddo.
6 “Paid â gwyro barn i'r tlawd yn ei achos.
7 Ymgadw oddi wrth eiriau celwyddog, a phaid â difa'r dieuog na'r cyfiawn, oherwydd ni byddaf fi'n cyfiawnhau'r drygionus.
8 Paid â derbyn llwgrwobr, oherwydd y mae'n dallu'r un mwyaf craff ac yn gwyro geiriau'r cyfiawn.
9 “Paid â gorthrymu'r estron, oherwydd fe wyddoch chwi beth yw bod yn estron am mai estroniaid fuoch yng ngwlad yr Aifft.
10 “Am chwe blynedd yr wyt i hau dy dir a chasglu ei gynnyrch,
11 ond yn y seithfed flwyddyn yr wyt i'w adael heb ei drin, er mwyn i'r rhai tlawd ymysg dy bobl gael bwyta, ac i'r anifeiliaid gwyllt gael bwydo ar yr hyn a adewir yn weddill. Yr wyt i wneud yr un modd gyda'th winllan a'th goed olewydd.
12 “Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, er mwyn i'th ych a'th asyn gael gorffwys, ac i fab dy gaethferch ac i'r estron gael dadflino.
13 Gofalwch gadw'r holl bethau a ddywedais wrthych, a pheidiwch ag enwi duwiau eraill na sôn amdanynt.
14 “Yr wyt i gadw gŵyl i mi deirgwaith y flwyddyn.
15 Yr wyt i gadw gŵyl y Bara Croyw; fel y gorchmynnais iti, yr wyt i fwyta bara croyw am saith diwrnod ar yr amser penodedig ym mis Abib, oherwydd yn ystod y mis hwnnw y daethost allan o'r Aifft. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.
16 Yr wyt i gadw gŵyl y Cynhaeaf â blaenffrwyth yr hyn a heuaist yn y maes. Yr wyt i gadw gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn, pan wyt yn casglu o'r maes ffrwyth dy lafur.
17 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw deirgwaith y flwyddyn.
18 “Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â gadael braster fy ngwledd yn weddill hyd y bore.
19 “Yr wyt i ddod â'r cyntaf o flaenffrwyth dy dir i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw.“Paid â berwi myn yn llaeth ei fam.
20 “Edrych, yr wyf yn anfon angel o'th flaen, i'th warchod ar hyd y ffordd a'th arwain i'r man yr wyf wedi ei baratoi.
21 Bydd ufudd iddo a gwrando arno; paid â'i wrthwynebu, oherwydd fy awdurdod i sydd ganddo, ac ni fydd yn maddau eich pechodau.
22 “Os gwrandewi'n ofalus arno, a gwneud y cwbl a ddywedaf, byddaf yn elyn i'th elynion, ac fe wrthwynebaf dy wrthwynebwyr.
23 “Bydd fy angel yn mynd o'th flaen ac yn dy arwain at yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Canaaneaid, Hefiaid, a Jebusiaid, a byddaf yn eu difodi.
24 Paid ag ymgrymu i'w duwiau, na'u gwasanaethu, a phaid â gwneud fel y maent hwy yn gwneud; yr wyt i'w dinistrio'n llwyr a dryllio'u colofnau'n ddarnau.
25 Yr ydych i wasanaethu'r ARGLWYDD eich Duw; bydd ef yn bendithio dy fara a'th ddŵr ac yn cymryd ymaith bob clefyd o'ch plith.
26 Ni bydd dim o fewn dy dir yn erthylu nac yn ddiffrwyth; rhoddaf i ti nifer llawn o ddyddiau.
27 Byddaf yn anfon fy arswyd o'th flaen, ac yn drysu'r holl bobl y byddi'n dod yn eu herbyn, a gwnaf i'th holl elynion droi'n ôl.
28 Byddaf yn anfon cacwn o'th flaen i yrru ymaith yr Hefiaid, y Canaaneaid, a'r Hethiaid o'th olwg.
29 Ond ni fyddaf yn eu gyrru hwy i gyd allan o'th flaen yr un flwyddyn, rhag i'r wlad fynd yn anghyfannedd ac i'r anifeiliaid gwyllt amlhau yn dy erbyn.
30 Fe'u gyrraf allan o'th flaen fesul tipyn, nes iti gynyddu digon i feddiannu'r wlad.
31 Gosodaf dy derfynau o'r Môr Coch hyd fôr y Philistiaid, ac o'r anialwch hyd afon Ewffrates; byddaf yn rhoi trigolion y wlad yn eich dwylo, a byddi'n eu gyrru allan o'th flaen.
32 Paid â gwneud cyfamod â hwy nac â'u duwiau.
33 Ni fyddant yn aros yn y wlad, rhag iddynt wneud i ti bechu yn f'erbyn; os byddi'n gwasanaethu eu duwiau, bydd hynny'n dramgwydd i ti.”