Exodus 32 BCN

Y Llo Aur

1 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dod i lawr o'r mynydd, daethant ynghyd at Aaron a dweud wrtho, “Cod, gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft.”

2 Dywedodd Aaron wrthynt, “Tynnwch y tlysau aur sydd ar glustiau eich gwragedd a'ch meibion a'ch merched, a dewch â hwy ataf fi.”

3 Felly tynnodd yr holl bobl eu clustlysau aur, a daethant â hwy at Aaron.

4 Cymerodd yntau y tlysau ganddynt, ac wedi eu trin â chŷn, gwnaeth lo tawdd ohonynt. Dywedodd y bobl, “Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.”

5 Pan welodd Aaron y llo tawdd, adeiladodd allor o'i flaen a chyhoeddodd, “Yfory bydd gŵyl i'r ARGLWYDD.”

6 Trannoeth codasant yn gynnar ac offrymu poethoffrymau, a dod â heddoffrymau; yna eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, ac ymroi i gyfeddach.

7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos i lawr, oherwydd y mae'r bobl y daethost â hwy i fyny o wlad yr Aifft wedi eu halogi eu hunain.

8 Y maent wedi cilio'n gyflym oddi wrth y ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hunain lo tawdd, ac y maent wedi ei addoli ac aberthu iddo, a dweud, ‘Dyma, O Israel, dy dduwiau a ddaeth â thi i fyny o wlad yr Aifft.’ ”

9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf wedi gweld mor wargaled yw'r bobl hyn;

10 yn awr, gad lonydd imi er mwyn i'm llid ennyn yn eu herbyn a'u difa; ond ohonot ti fe wnaf genedl fawr.”

11 Ymbiliodd Moses â'r ARGLWYDD ei Dduw, a dweud, “O ARGLWYDD, pam y mae dy lid yn ennyn yn erbyn dy bobl a ddygaist allan o wlad yr Aifft â nerth mawr ac â llaw gadarn?

12 Pam y caiff yr Eifftiaid ddweud, ‘Â malais yr aeth â hwy allan, er mwyn eu lladd yn y mynyddoedd a'u difa oddi ar wyneb y ddaear’? Tro oddi wrth dy lid angerddol, a bydd edifar am iti fwriadu drwg i'th bobl.

13 Cofia Abraham, Isaac ac Israel, dy weision y tyngaist iddynt yn d'enw dy hun a dweud, ‘Amlhaf eich disgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoddaf yr holl wlad hon iddynt, fel yr addewais, yn etifeddiaeth am byth.’ ”

14 Yna bu'n edifar gan yr ARGLWYDD am iddo fwriadu drwg i'w bobl.

15 Trodd Moses, a mynd i lawr o'r mynydd â dwy lech y dystiolaeth yn ei law, llechau ag ysgrifen ar y ddau wyneb iddynt.

16 Yr oedd y llechau o waith Duw, ac ysgrifen Duw wedi ei cherfio arnynt.

17 Pan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, dywedodd wrth Moses, “Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll.”

18 Ond meddai yntau, “Nid sŵn gorchfygwyr yn bloeddio na rhai a drechwyd yn gweiddi a glywaf fi, ond sŵn canu.”

19 Pan ddaeth yn agos at y gwersyll, a gweld y llo a'r dawnsio, gwylltiodd Moses, a thaflu'r llechau o'i ddwylo a'u torri'n deilchion wrth droed y mynydd.

20 Cymerodd y llo a wnaethant, a'i losgi â thân; fe'i malodd yn llwch a'i gymysgu â dŵr, a gwnaeth i bobl Israel ei yfed.

21 Dywedodd Moses wrth Aaron, “Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, i beri iti ddwyn arnynt y fath bechod?”

22 Atebodd Aaron ef: “Paid â digio, f'arglwydd; fe wyddost am y bobl, eu bod â'u bryd ar wneud drygioni.

23 Dywedasant wrthyf, ‘Gwna inni dduwiau i fynd o'n blaen, oherwydd ni wyddom beth a ddigwyddodd i'r Moses hwn a ddaeth â ni i fyny o wlad yr Aifft’.

24 Dywedais innau wrthynt, ‘Y mae pawb sydd â thlysau aur ganddynt i'w tynnu i ffwrdd’. Rhoesant yr aur i mi, ac fe'i teflais yn y tân; yna daeth y llo hwn allan.”

25 Gwelodd Moses fod y bobl yn afreolus, a bod Aaron wedi gadael iddynt fynd felly, a'u gwneud yn waradwydd ymysg eu gelynion.

26 Yna safodd Moses wrth borth y gwersyll, a dweud, “Pwy bynnag sydd o blaid yr ARGLWYDD, doed ataf fi.” Ymgasglodd holl feibion Lefi ato,

27 a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: ‘Bydded i bob un ohonoch osod ei gleddyf ar ei glun a mynd yn ôl a blaen drwy'r gwersyll, o ddrws i ddrws, a lladded pob un ei frawd, ei gyfaill a'i gymydog.’ ”

28 Gwnaeth meibion Lefi yn ôl gorchymyn Moses, a'r diwrnod hwnnw syrthiodd tua thair mil o'r bobl.

29 Dywedodd Moses, “Heddiw yr ydych wedi'ch ordeinio i'r ARGLWYDD, pob un ar draul ei fab a'i frawd, er mwyn iddo ef eich bendithio'r dydd hwn.”

30 Trannoeth dywedodd Moses wrth y bobl, “Yr ydych wedi pechu'n ddirfawr. Yr wyf am fynd, yn awr, i fyny at yr ARGLWYDD; efallai y caf wneud cymod dros eich pechod.”

31 Dychwelodd Moses at yr ARGLWYDD a dweud, “Och! Y mae'r bobl hyn wedi pechu'n ddirfawr trwy wneud iddynt eu hunain dduwiau o aur.

32 Yn awr, os wyt am faddau eu pechod, maddau; ond os nad wyt, dilea fi o'r llyfr a ysgrifennaist.”

33 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y sawl a bechodd yn f'erbyn a ddileaf o'm llyfr.

34 Yn awr, dos, ac arwain y bobl i'r lle y dywedais wrthyt, a bydd fy angel yn mynd o'th flaen. Ond fe ddaw dydd pan ymwelaf â hwy am eu pechod.”

35 Anfonodd yr ARGLWYDD bla ar y bobl am yr hyn a wnaethant â'r llo a luniodd Aaron.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40