Exodus 38 BCN

Allor y Poethoffrwm

1 Gwnaeth allor y poethoffrwm hefyd o goed acasia; yr oedd yn sgwâr, yn bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led, a thri chufydd o uchder.

2 Gwnaeth gyrn yn rhan o'r allor yn ei phedair congl, a rhoddodd haen o bres drosti.

3 Gwnaeth ar ei chyfer lestri, rhawiau, cawgiau, ffyrch a phedyll tân, pob un ohonynt o bres.

4 Gwnaeth hefyd ar gyfer yr allor rwyll o rwydwaith pres, a'i gosod dan ymyl yr allor fel ei bod yn ymestyn at hanner yr allor.

5 Gwnaeth bedwar bach pres ar bedair congl y rhwydwaith, i gymryd y polion.

6 Gwnaeth y polion o goed acasia, a rhoi haen o bres drostynt; rhoddodd hwy drwy'r bachau ar ochrau'r allor i'w chludo.

7 Fe'i gwnaeth ag astellau, yn wag oddi mewn.

Y Noe Bres

8 Gwnaeth noe, a throed iddi, o ddrychau pres y gwragedd a oedd yn gwasanaethu wrth ddrws pabell y cyfarfod.

Cyntedd y Tabernacl

9 Yna gwnaeth y cyntedd. Ar yr ochr ddeheuol yr oedd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10 yr oedd hefyd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11 Yr un modd, ar yr ochr ogleddol yr oedd llenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond yr oedd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

12 Ar yr ochr orllewinol yr oedd llenni hanner can cufydd o hyd, ynghyd â deg colofn a deg troed; yr oedd bachau'r colofnau a'u cylchau o arian.

13 Yr oedd yr ochr ddwyreiniol, tua chodiad haul, yn hanner can cufydd.

14 Yr oedd y llenni ar y naill ochr i'r porth yn bymtheg cufydd, â thair colofn a thri throed,

15 a'r llenni ar yr ochr arall hefyd yn bymtheg cufydd â thair colofn a thri throed.

16 Yr oedd yr holl lenni o amgylch y cyntedd o liain main wedi ei nyddu.

17 Yr oedd traed y colofnau o bres, ond yr oedd eu bachau a'u cylchau o arian; yr oedd pen uchaf y colofnau o arian, ac yr oedd holl golofnau'r cyntedd wedi eu cylchu ag arian.

18 Yr oedd y llen ym mhorth y cyntedd wedi ei brodio o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu; yr oedd yn ugain cufydd o hyd, a phum cufydd o led, ac yn cyfateb i lenni'r cyntedd.

19 Yr oedd y pedair colofn, a'u pedwar troed, o bres; y bachau, pen uchaf y colofnau, a'u cylchau, o arian.

20 Yr oedd holl hoelion y tabernacl a'r cyntedd oddi amgylch o bres.

Swm yr Aur, Arian a Phres ar gyfer y Tabernacl

21 Dyma'r holl bethau ar gyfer tabernacl y dystiolaeth a orchmynnodd Moses i'r Lefiaid eu gwneud dan gyfarwyddyd Ithamar fab Aaron yr offeiriad.

22 Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, oedd yn gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;

23 gydag ef yr oedd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, saer a chrefftwr, ac un a allai wnïo sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main.

24 Cyfanswm yr aur a ddefnyddiwyd yn holl waith y cysegr, sef yr aur a offrymwyd, oedd naw ar hugain o dalentau, a saith gant tri deg sicl, yn ôl sicl y cysegr.

25 Cyfanswm yr arian a roddodd y rhai o'r cynulliad a gyfrifwyd oedd can talent, a mil saith gant saith deg a phum sicl, yn ôl sicl y cysegr,

26 sef beca yr un gan y rhai oedd yn ugain oed neu'n hŷn ac a rifwyd yn y cyfrifiad (hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr, yw beca). Nifer y dynion oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant pum deg.

27 O'r can talent o arian y lluniwyd y traed ar gyfer y cysegr a'r gorchudd, can troed o'r can talent, sef talent i bob troed.

28 O'r mil saith gant saith deg a phum sicl, gwnaeth fachau ar gyfer y colofnau, a goreurodd ben uchaf y colofnau a'u cylchau.

29 Cyfanswm y pres yn yr offrwm oedd saith deg o dalentau, a dwy fil pedwar can sicl;

30 o'r rhain gwnaeth draed ar gyfer drws pabell y cyfarfod, yr allor bres a'r rhwyll bres oedd ar ei chyfer, ynghyd â holl lestri'r allor,

31 y traed ar gyfer y cyntedd o amgylch, a'r porth, a holl hoelion y tabernacl a'r hoelion o amgylch y cyntedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36 37 38 39 40