18 Felly aeth Moses allan o ŵydd Pharo, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD.
19 Gyrrodd yr ARGLWYDD wynt cryf iawn o'r gorllewin, a chododd hwnnw'r locustiaid a'u cludo i'r Môr Coch; ni adawyd yr un o'r locustiaid ar ôl yn unman yn yr Aifft.
20 Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd ryddhau'r Israeliaid.
21 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo.”
22 Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau.
23 Ni allai'r bobl weld ei gilydd, ac ni symudodd neb o'i le am dri diwrnod, ond yr oedd gan yr Israeliaid oleuni yn y lle'r oeddent yn byw.
24 Galwodd Pharo am Moses a dweud, “Ewch i addoli'r ARGLWYDD; caiff eich plant hefyd fynd gyda chwi, ond rhaid i'ch defaid a'ch gwartheg aros ar ôl.”