3 Yna daeth Moses ac Aaron at Pharo a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Am ba hyd yr wyt am wrthod ymostwng o'm blaen? Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.
4 Os gwrthodi eu rhyddhau, fe ddof â locustiaid i mewn i'th wlad yfory;
5 byddant yn gorchuddio wyneb y tir fel na ellir ei weld, yn bwyta'r ychydig a adawyd i chwi ar ôl y cenllysg, ac yn bwyta pob coeden o'ch eiddo sy'n tyfu yn y maes.
6 Byddant yn llenwi dy dai, a thai dy weision i gyd, a thai'r holl Eifftiaid, mewn modd na welwyd ei debyg gan dy dadau na'th deidiau, o'r dydd y buont ar y ddaear hyd heddiw.” Yna trodd ac aeth allan o ŵydd Pharo.
7 Dywedodd gweision Pharo wrtho, “Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?”
8 Felly daethpwyd â Moses ac Aaron yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthynt, “Cewch fynd i addoli'r ARGLWYDD eich Duw; ond pa rai ohonoch sydd am fynd?”
9 Dywedodd Moses, “Byddwn yn mynd gyda'r ifainc a'r hen, gyda'n meibion a'n merched, gyda'n defaid a'n gwartheg, oherwydd rhaid inni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD.”