7 Dywedodd gweision Pharo wrtho, “Am ba hyd y mae'r dyn hwn yn mynd i fod yn fagl inni? Gollwng y bobl yn rhydd, er mwyn iddynt addoli'r ARGLWYDD eu Duw; onid wyt ti eto'n deall bod yr Aifft wedi ei difetha?”
8 Felly daethpwyd â Moses ac Aaron yn ôl at Pharo, a dywedodd wrthynt, “Cewch fynd i addoli'r ARGLWYDD eich Duw; ond pa rai ohonoch sydd am fynd?”
9 Dywedodd Moses, “Byddwn yn mynd gyda'r ifainc a'r hen, gyda'n meibion a'n merched, gyda'n defaid a'n gwartheg, oherwydd rhaid inni gadw gŵyl i'r ARGLWYDD.”
10 Dywedodd yntau wrthynt, “Yr ARGLWYDD fyddo gyda chwi os byth y rhyddhaf chwi a'ch rhai bychain! Edrychwch, rhyw ddrwg sydd gennych mewn golwg.
11 Na, y gwŷr yn unig a gaiff fynd i addoli'r ARGLWYDD, oherwydd dyna oedd eich dymuniad.” Yna fe'u gyrrwyd allan o ŵydd Pharo.
12 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law dros wlad yr Aifft er mwyn i'r locustiaid ddisgyn ar dir yr Aifft, a bwyta holl lysiau'r ddaear a'r cyfan a adawyd ar ôl y cenllysg.”
13 Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid.