16 Bydd hyn yn arwydd ar dy law ac yn rhactalau rhwng dy lygaid; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni allan o'r Aifft.”
17 Pan ollyngodd Pharo y bobl yn rhydd, nid arweiniodd Duw hwy ar hyd ffordd gwlad y Philistiaid, er bod honno'n agos. “Oherwydd,” meddai, “gallai'r bobl newid eu meddwl pan welant ryfel, a dychwelyd i'r Aifft.”
18 Felly arweiniodd hwy ar hyd ffordd yr anialwch i gyfeiriad y Môr Coch, ac aeth yr Israeliaid allan o wlad yr Aifft gan ddwyn eu harfau rhyfel.
19 Cymerodd Moses esgyrn Joseff gydag ef, oherwydd yr oedd Joseff wedi gosod yr Israeliaid dan lw, drwy ddweud, “Bydd Duw yn sicr o ymweld â chwi, a'r pryd hwnnw yr ydych i ddwyn fy esgyrn oddi yma gyda chwi.”
20 Aethant ymaith o Succoth a gwersyllu yn Etham, ar gwr yr anialwch.
21 Yr oedd yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen mewn colofn o niwl yn ystod y dydd i'w harwain ar y ffordd, ac mewn colofn o dân yn ystod y nos i'w goleuo; felly gallent deithio ddydd a nos.
22 Ni symudwyd y golofn niwl oedd o flaen y bobl yn ystod y dydd na'r golofn dân oedd o'u blaen yn ystod y nos.