9 Bydd hyn i ti yn arwydd ar dy law a rhwng dy lygaid, i'th atgoffa y dylai cyfraith yr ARGLWYDD fod yn dy enau; oherwydd â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â thi allan o'r Aifft.
10 Yr wyt i gadw'r ddeddf hon yn ei hamser penodedig o flwyddyn i flwyddyn.
11 “Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â thi i wlad y Canaaneaid a'i rhoi iti, fel y tyngodd i ti ac i'th hynafiaid,
12 yr wyt i neilltuo pob cyntafanedig iddo ef; bydd pob gwryw cyntafanedig o blith dy anifeiliaid yn eiddo i'r ARGLWYDD.
13 Ond yr wyt i roi oen yn gyfnewid am bob asyn cyntafanedig, ac os nad wyt am ei gyfnewid, yr wyt i dorri ei wddf. Yr wyt hefyd i gyfnewid pob cyntafanedig o blith dy feibion.
14 Yna pan fydd dy blentyn ymhen amser yn gofyn, ‘Beth yw ystyr hyn?’ dywed wrtho, ‘Â llaw nerthol y daeth yr ARGLWYDD â ni o'r Aifft, o dŷ caethiwed;
15 oherwydd pan wrthododd Pharo ein gollwng yn rhydd, lladdodd yr ARGLWYDD bob cyntafanedig, yn ddyn ac anifail, yng ngwlad yr Aifft. Dyna pam yr wyf yn aberthu i'r ARGLWYDD bob gwryw cyntafanedig, ond yn cyfnewid pob cyntafanedig o blith fy meibion.’