1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2 “Dywed wrth yr Israeliaid am ddychwelyd a gwersyllu o flaen Pihahiroth, rhwng Migdol a'r môr; yr ydych i wersyllu wrth y môr gyferbyn â Baal-seffon.
3 Bydd Pharo'n meddwl bod yr Israeliaid wedi eu dal yn y wlad a'u cau i mewn gan yr anialwch.
4 Yna, byddaf fi'n caledu ei galon, a bydd ef yn eu herlid; felly, fe enillaf ogoniant i mi fy hun ar draul Pharo a'i holl fyddin, a chaiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.” Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnwyd iddynt.
5 Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, “Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!”