17 Byddaf finnau'n caledu calonnau'r Eifftiaid er mwyn iddynt eu dilyn, ac enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i holl fyddin, ei gerbydau a'i farchogion.
18 Caiff yr Eifftiaid wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan enillaf ogoniant ar draul Pharo a'i gerbydau a'i farchogion.”
19 Symudodd angel Duw, a fu'n mynd o flaen byddin Israel, ac aeth y tu ôl iddynt; a symudodd y golofn niwl a fu o'u blaen, a safodd y tu ôl iddynt,
20 gan aros rhwng byddin yr Aifft a byddin Israel. Yr oedd y cwmwl yn dywyllwch, ond yn goleuo trwy'r nos i'r Israeliaid; ac ni ddaeth y naill ar gyfyl y llall trwy'r nos.
21 Estynnodd Moses ei law dros y môr, a thrwy'r nos gyrrodd yr ARGLWYDD y môr yn ei ôl â gwynt cryf o'r dwyrain. Gwnaeth y môr yn sychdir, a holltwyd y dyfroedd.
22 Aeth yr Israeliaid trwy ganol y môr ar dir sych, ac yr oedd y dyfroedd fel mur ar y naill ochr a'r llall.
23 Erlidiodd yr Eifftiaid hwy, ac aeth holl feirch Pharo, ei gerbydau a'i farchogion, ar eu holau i ganol y môr.