5 Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi ffoi, newidiodd agwedd Pharo a'i weision tuag atynt, ac meddent, “Beth yw hyn a wnaethom? Yr ydym wedi rhyddhau'r Israeliaid o'n gwasanaeth!”
6 Felly paratôdd Pharo ei gerbyd ac aeth â'i fyddin gydag ef;
7 cymerodd hefyd chwe chant o gerbydau dethol, a'r holl gerbydau eraill oedd yn yr Aifft, a chapten ar bob un.
8 Caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo brenin yr Aifft, ac erlidiodd hwnnw'r Israeliaid wrth iddynt fynd ymaith yn fuddugoliaethus.
9 Aeth yr Eifftiaid ar eu hôl gyda holl feirch Pharo a'i gerbydau, ei farchogion a'i fyddin, a'u goddiweddyd tra oeddent yn gwersyllu wrth y môr gerllaw Pihahiroth, gyferbyn â Baal-seffon.
10 Wrth i Pharo nesáu, edrychodd yr Israeliaid i fyny a gweld yr Eifftiaid yn dod ar eu holau, ac yn eu dychryn gwaeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD.
11 Dywedasant wrth Moses, “Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i'r anialwch i farw? Pam y gwnaethost hyn i ni, a dod â ni allan o'r Aifft?