12 Yna cyflwynodd Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, boethoffrwm ac ebyrth i Dduw, a daeth Aaron a holl henuriaid Israel i fwyta bara gydag ef ym mhresenoldeb Duw.
13 Eisteddodd Moses drannoeth i farnu'r bobl, a hwythau'n sefyll o'i flaen o'r bore hyd yr hwyr.
14 Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith y cwbl yr oedd Moses yn ei wneud er mwyn y bobl, dywedodd, “Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud drostynt? Pam yr wyt yn eistedd ar dy ben dy hun, a'r holl bobl yn sefyll o'th flaen o fore hyd hwyr?”
15 Atebodd Moses ef, “Am fod y bobl yn dod ataf i ymgynghori â Duw.
16 Pan fydd achos yn codi, fe ddônt ataf fi i mi farnu rhwng pobl a'i gilydd, a datgan deddfau Duw a'i gyfreithiau.”
17 Dywedodd tad-yng-nghyfraith Moses wrtho, “Nid dyma'r ffordd orau iti weithredu.
18 Byddi di a'r bobl sydd gyda thi wedi diffygio'n llwyr; y mae'r gwaith yn rhy drwm iti, ac ni elli ei gyflawni dy hun.